Llyfr Exodus 36
1Y gaeadlen i’r drws. Yna y gweithiodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd.
2A Moses a alwodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesâu at y gwaith i’w weithio ef.
3A chymmerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant atto ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.
4A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cyssegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5¶ A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchymynodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy y gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ag at offrwm y cyssegr. Felly yr attaliwyd y bobl rhag dwyn mwy.
7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.
8¶ A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.
9Hŷd un llèn oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llèn pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni.
10Ac efe a gydiodd bùm llèn wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pùm llèn eraill wrth ei gilydd.
11Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar ei chwrr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llèn arall, y’nghydiad yr ail.
12Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llèn, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i’r llèn ydoedd y’nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill lèn wrth y llall.
13Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill lèn wrth y llall â’r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.
14¶ Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell-lèn ar y tabernacl: yn un llèn ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.
15Hŷd un llèn oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llèn oedd bedwar cufydd: a’r un mesur oedd i’r un llèn ar ddeg.
16Ac efe a gydiodd bùm llèn wrthynt eu hunain, a chwe llèn wrthynt eu hunain.
17Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llèn yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llèn y’nghydiad yr ail.
18Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell-lèn i fod yn un.
19Ac efe a wnaeth dô i’r babell-lèn o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.
20¶ Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.
21Deg cufydd oedd hŷd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.
22Dau dyno oedd i’r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.
23Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl; ugain ystyllen i’r tu dehau, tu a’r dehau.
24A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.
25Ac i all ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,
26A’u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
27Ac i ystlysau y tabernacl, tu a’r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen.
28A dwy ystyllen a wnaeth efe y’nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys.
29Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.
30Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.
31¶ Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,
32A phùm bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du y gorllewin.
33Ac efe a wnaeth y barr canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwrr i gwrr.
34Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau âg aur.
35¶ Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.
36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37¶ Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;
38A’i phùm colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, âg aur: ond eu pùm mortais oedd o bres.