The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 30

1Defnydd yr arolg-darth. Gwna hefyd allor i arogl-darthu arogl-darth: o goed Sittim y gwnei di hi.

2Yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un.

3A gwisg hi âg aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt.

5A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt âg aur.

6A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

7Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogl-dartha efe.

8A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogl-darthed arni arogl-darth gwastadol ger bron yr Arglwydd, trwy eich cenhedlaethau.

9Nac offrymmwch arni arogl-darth dïeithr, na phoeth-offrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddïod-offrwm arni.

10A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.

11¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

13Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd.

14Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd.

15Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

16A chymmer yr arian cymmod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

17¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr.

19A golched Aaron a’i feibion o honi eu dwylaw a’u traed.

20Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogl-darthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.

21Golchant eu dwylaw a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragywyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenhedlaethau.

22¶ Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

23Cymmer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pùm càn sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;

24Ac o’r casia pwys pùm cant o siclau, yn ol sicl y cyssegr; a hin o olew olew-wydden.

25A gwna ef yn olew enneiniad sanctaidd, yn ennaint cymmysgadwy o waith yr apothecari: olew enneiniad sanctaidd fydd efe.

26Ac enneinia âg ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,

27Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.

28Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed.

29A chyssegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.

30Enneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.

31A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew enneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenhedlaethau.

32Nac enneinier âg ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

33Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

34¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymmer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.

35A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.

36Gan guro cur yn fân beth o hono, a dod o hono ef ger bron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.

37A’r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd.

38Pwy bynnag a wnel ei fath ef, i arogli o hono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

← Llyfr Exodus 29Read In The App, Free →Llyfr Exodus 31 →

Study Llyfr Exodus 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940