Llyfr Exodus 21
1Am yr hwn a fo achos o niwed i eraill. Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.
2Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.
3Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd âg ef.
4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.
5Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a’m plant, nid âf fi allan yn rhydd:
6Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddor, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a’i gwasanaetha ef byth.
7¶ Ac os gwerth gwr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.
8Os heb ryglyddu bodd y’ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a’i cymmerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddïeithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.
9Ac os i’w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ol deddf y merched.
10Ac os arall a brïoda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i dyled prïodas.
11Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12¶ Rhodder i farwolaeth y neb a darawo wr, fel y byddo marw.
13Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.
14Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymmydog, i’w ladd ef trwy dwyll; cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15¶ Y neb a darawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
16¶ Yr hwn a ladrattao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.
17¶ Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad, neu ei fam.
18¶ A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;
19Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y tarawydd a fydd dïangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
20¶ Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaeth-ferch, â gwïalen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddïal dïaler arno.
21Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddïaler arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.
22¶ Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gospi cosper ef, fel y gosodo gwr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.
23Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,
24Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
25Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.
26¶ Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaeth-ferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:
27Ac os tyrr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaeth-ferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28¶ Ac os ŷch a gornia wr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwyttâer ei gig ef; ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.
29Ond os yr ŷch oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd o hono wr neu wraig: yr ŷch a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.
30Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ol yr hyn oll a osoder arno.
31Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ol y farnedigaeth hon.
32Ond os gwasanaethwr neu wasanaeth-ferch a gornia yr ŷch; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.
33¶ Ac os egyr gwr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ŷch, neu asyn;
34Perchen y pydew a dâl am danynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd iddo yntau.
35¶ Ac os ŷch gwr a dery ŷch ei gymmydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r ŷch marw a rannant hefyd.
36Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ŷch hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw yn eiddo ef.