Llyfr Exodus 37
1Olew yr enneiniad, a’r pêr-arogldarth. Abesaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
2Ac a’i gwisgodd hi âg aur pur o fewn, ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
3Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.
4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur.
5Ac a osododd y trosolion trwy y modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6¶ Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.
7Ac efe a wnaeth ddau gerub aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;
8Un cerub ar y pen o’r tu yma, a cherub arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y cerubiaid, ar ei dau ben hi.
9A’r cerubiaid oeddynt, gan ledu esgyll tu ag i fynu, a’u hesgyll yn gorchuddio y drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau y cerubiaid oedd tu ag at y drugareddfa.
10¶ Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
11Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.
12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.
13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.
14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.
15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur i ddwyn y bwrdd.
16Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i phïolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
17¶ Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un.
18A chwech o geingciau yn myned allan o’i ystlysau: tair caingc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair caingc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall.
19Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn, ar gaingc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chaingc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren.
20Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau.
21A chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono; yn ol y chwe chaingc oedd yn dyfod allan o hono.
22Eu cnapiau a’u ceingciau oedd o’r un: y cwbl o hono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.
23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur.
24O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.
25¶ Gwnaeth hefyd allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un.
26Ac efe a’i gwisgodd hi âg aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt.
28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt âg aur.
29¶ Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.