Llyfr Jeremeia 18
1GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º
2Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau. º
3Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. º
4A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn Itew y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arali, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef. º
5Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, º
6Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr AR¬GLWYDD. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel. º
7Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu ftenhiniaeth; º
8Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. º
9A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth; º
10Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni a’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi. º
11Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda. º
12Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun. º
13Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn. º
14A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y macs? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall? º
15Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogl-darthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr; º
16I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elb heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben. º
17Megis a gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd. º
18Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. º
19Ystyria di wrthyf, O ARGLWYDD, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi. º
20A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt. º
21Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel. º
22Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed. º
23Tithau, O ARGLWYDD, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th wydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.