The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 40

1YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon. º

2A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD dy DDUW a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn. º

3A’r ARGLWYDD a’i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi. º

4Ac yn awr wele, mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o’th flaen di: i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos. º

5Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a’i gollyngodd ef ymaith. º

6Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad. º

7A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt-hwy a’u gwyr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o diodion y wlad, o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon; º

8Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt-hwy a’u gwŷr. º

9A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi. º

10Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thngwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu. º

11A phan glybu yr holl Iddewon y Thai oedd ym Moab, ac ymysg meibien Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wiedydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy; º

12Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn. º

13Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa, ‘ º

14Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy. º

15Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd. Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Neth¬aneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda? º

16Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.

← Llyfr Jeremeia 39Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 41 →

Study Llyfr Jeremeia 40

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152