The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 51

1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i; º

2A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacant ei thir hi, pherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o. amgylch ar ddydd blinder. º

3Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi. º

4Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi. º

5Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei DDUW, gan ARGLWYDD y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel. º

6Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei him: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r ARGLWYDD; efe a dal y pwyth iddi hi. º

7Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr ARGLWYDD, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant. º

8Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagi i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi. º

9Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau. º

10Yr ARGLWYDD a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein Duw. º

11Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr ARG&WYDD yw hyn, dial ei deml ef.,:.,_ º

12Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr ARGLWYDD a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon. º

13Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd-dod. º

14ARGLWYDD y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf a dynion megis a lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn. º

15Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall. º

16Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwioedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau. º

17Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt. º

18Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt. º

19Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw ef. º

20Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys a thi y drylliaf y cenhedloedd, ac a thi y dinistriaf deyrnasoedd;: º

21A thi hefyd y gwasgaraf y march a.’r marchwr; ac a thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog; º

22A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac a thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac a thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn; º

23A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac a thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid. º

24A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr ARGLWYDD. º

25Wele A i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg. º

26Ac ni chymerant ohonot faen congi, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr ARGLWYDD. º

27Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amied â’r lindys. blewog. º

28Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef. º

29Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr AR¬GLWYDD yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi. º

30Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd. º

31Rhedegwr a red i gyfarfod ârhedegwr, a chennad i gyfarfod âchennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr, º

32Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr. º

33Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Mcrch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrdcr y daw amser cynhaeaf iddi. º

34Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei t’ol o’m dant-eithion; efe a’m bwriodd i allan. º

35Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem. º

36Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadi di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac’ a sychaf ei ffynhonnau hi.... " º

37A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn cHwib-aniad, heb breswylyd’d. " º

38Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. ‘ º

39Yn eu gwres hwynt y gosodaf wieddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont. hun dragwyddol, ac na ddenront, medd yr ARGLWYDD. º

40Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod. º

41Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd! º

42Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef. º

43Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyf¬annedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi. º

44A mi a ymwelaf a Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth. º

45Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD, º

46A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. º

47Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf a delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. º

48Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD. º

49Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. º

50Y rhai a ddian&hasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn "ich cof chwi. º

51Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein bwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr ARGLWYDD. º

52Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf fi s, i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr.ircholledig a riddfan. º

53Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, W er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi frrthyf fi, medd yr ARGLWYDD. º

54Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. º

55Oherwydd yr ARGLWYDD a anrheithjodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’l thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu Itef hwynt. º

56Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedym hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr. º

57A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedym: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd. º

58Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant. º

59Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd. º

60Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar. ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. º

61A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn; º

62Yna dywed, O ARGLWYDD, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol. º

63A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates; º

64A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi ami: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.

← Llyfr Jeremeia 50Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 52 →

Study Llyfr Jeremeia 51

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152