The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 12

1Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll?

2Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant, cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.

3Ond ti, ARGLWYDD, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.

4Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddy¬wedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.

5O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?

6Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt-hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.

7Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.

8Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi.

9Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgasglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.

10Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.

11Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.

12Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.

13Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.

14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt.

15Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w eti¬feddiaeth, a phob un i’w dir.

16Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.

17Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.

← Llyfr Jeremeia 11Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 13 →

Study Llyfr Jeremeia 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152