Llyfr Jeremeia 15
3A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr ARGLWYDD: y cleddyf, i ladd; a’r cwn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa. º
4Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda; am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsakm. º
5Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti? º
6Tia’rngadewaist, medd yr ARGLWYDD, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau. º
7A mi a’u chwalaf hwynt a gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd. º
8Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y roor: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi; a dychryn ar y ddinas. º
9Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr AR¬GLWYDD. º
10Gwae fi, fy mam, ymddwyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i. º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd. º
12A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’’r dur? º
13Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau. "
14Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elyrt- ion i dir nid adwaenost: canys’tan a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg. º
15Ti a wyddost, ARGLWYDD; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosofar fy erhdwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di. º
16Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd. º
17Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eistedd¬ais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid. º
18Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant? º
19Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy. º
20Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr ARGLWYDD. º
21A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.