Llyfr Jeremeia 28
1AC yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y profiwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd, º
2Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon. º
3O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon; ddygaf Jechoneia mab fel y gwasanaethont Nebuchodonosor n Jwda, a holl eaethelud brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef. º
4Ac mi a ddygaf Jechoniah mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon. º
5Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD; º
6Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr ARGLWYDU: yr ARGLWYDD a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr ARGLWYDD, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn. º
7Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl; º
8Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint. º
9Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben; yr adnabyddir y proffwyd, mai yr ARGLWYDD a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd. º
10Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jere¬meia y proffwyd, ac a’i torrodd ef. º
11A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proff¬wyd a aeth i ffordd. º
12Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd, º
13DOS di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn. º
14Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl renhedloedd hyn, heddwch hi y bydd heddwch i chwithau. º
15Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. º
16Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD. º
17Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.