The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 43

1Aphan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr AR¬GLWYDD eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:, º

2Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr ARGLWYDD ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno. º

3Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon. º

4Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i drigo yn nhir Jwda: º

5Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda; º

6Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia. º

7Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD; fel hyn y daethant i Tapanhes. º

8A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd, º

9Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda; º

10A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt, º

11A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, a chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf. º

12A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a*u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg a gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch. º

13Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

← Llyfr Jeremeia 42Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 44 →

Study Llyfr Jeremeia 43

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152