The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 47

1GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. º

2Fel hynydywedyr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant. º

3Rhag sŵn twrfcarnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo: º

4O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor. º

5Moeini a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di? º

6O cleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd m lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw. º

7Pa fodd y llonydda efe, gan i’r AR¬GLWYDD ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.

← Llyfr Jeremeia 46Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 48 →

Study Llyfr Jeremeia 47

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152