Llyfr Jeremeia 36
1A yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr AR¬GLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, º
2Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn trbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn. º
3Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod. º
4Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr. º
5A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr ARGLWYDD. º
6Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr ARGLWYDD, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar y dydd ympryd; a lle y Slywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darileni di hwynt. º
7Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yf APGLWYDD yn erbyn y bobl hyn. º
8Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr ARGLWYDD yn nhŷ yr AR¬GLWYDD. º
9Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem. º
10Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia mab Saffan ye ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD, lle y clybu yr holl bobl. º
11Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr ARGLWYDD allan o’r llyfr, i a Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin-i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Einathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion. º
13A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasaii Baruch y llyfr lle y clybu y bobl. º
14Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddy¬wedyd, Cymer yn dy law y llyfr y dar nenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a-thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt. º
15A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom. ni. Felly Baruch a’i darilenodd lle y clywsant hwy. º
16A pban glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a’ ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin. º
17A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr. Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef? º
18Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi a’i enau, a minnau a’u hysgnfennais hwynt yn y llyfr ag inc. º
19Yna y tywy&ogion a ddywedasant wrth Baruch, DOS ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi. º
20A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgnfcnnydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin. º
21A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef <y ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darilenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. º
22A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis, â thân wedi ei gynnau ger ei fron. º
23A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd. º
24Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn. º
25Eto Einathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant a’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt. º
26Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a’u cuddiodd hwynt. º
27Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd, º
28Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda: º
29A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd; Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddy¬wedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni? º
30Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhmfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rcw y nos. º
31A mi a ymwelaf ag ef, ac a’i had, ac a’i weision, am eu hanwiredd, a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant. º
32Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer, fel hwythau.