The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 48

1FEL hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd. º

2Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid. º

3Llefyn gweiddi a glywir o Horonaim; finrhaith, a dinistr mawr. º

4Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd. º

5Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr. º

6Ffowch, achubwch eich einioes; a ‘byddwch fel y grug yn yr anialwch. º

7Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd. º

8A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr ARGLWYDD. º

9Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt. º

10Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr ARGLWYDD yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed. º

11Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwa-ddod, ac ni thywalltwyd- hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei bias arni, ac ni newidiodd ei harogl. º

12Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacant ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. º

13A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt. º

14Pa fodd y dywedwefa chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel? º

15Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw ARGLWYDD y lluoedd. º

16Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest. º

17Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd! º

18O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; cahys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. º

19Preswylferch Aroer, saf ar y fford<l a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu? º

20Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab; º

21A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath, º

22Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Bethdiblathaim, º

23Ac ar Ciriathaim, ac ar Bethgamul, ac ar Bethmeon. º

24Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac ytt agos. º

25Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr ARGLWYDD. º

26Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. º

27Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist. º

28Trigolion Moab, gadewch y dinas¬oedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomcn yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twil. º

29Nyni a glywbom falchder Moab, (y mae hi yn falch lawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon. º

30Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr ARGLWYDD; ond nid fclly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly. º

31Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir-heres. º

32Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy firwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin. º

33A dygir ymaith lawenydd a gorfole 44 o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest. º

34O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd. º

35Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogl-darthu i’w dduwiau. º

36Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. º

37Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. º

38Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr ARGLWYDD. º

39Hwy a udant, gan ddywedyd. Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch. º

40Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei, adenydd dros Moab. º

41Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddinynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. º

42A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr AR¬GLWYDD. º

43Ofn, a ffoSg a magi a ddaw ama ti, trigiannol Moab, medd yr A-RGLWMgg),. / º

44Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y fibs; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagi: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr ARGLWYDD. º

45Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr. º

46Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion. º

47Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr ARGLWYDD. Hyd yma y mae barn Moab.

← Llyfr Jeremeia 47Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 49 →

Study Llyfr Jeremeia 48

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152