The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 5

1Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.

2Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.

3Oarglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.

4A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu Duw.

5Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a-wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.

6Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.

7Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynr, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.

8Oeddynt fel meirch porthiannus y bore, gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.

9Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

10Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei murganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.

11Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.

12Celwyddog fu.mt yn erbyn yr AR¬GLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:

13A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.

14Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt.

15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.

16Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.

17A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf.

18Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.

19A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.

20Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddy¬wedyd,

21Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:

22Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?

23Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.

24Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.

25Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.

26Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.

27Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.

28Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.

29Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?

30Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:

31Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?

← Llyfr Jeremeia 4Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 6 →

Study Llyfr Jeremeia 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152