The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 45

1Ygair yr hwn a lefarodd Jeremeia y « proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd, º

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch; º

3Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr ARGLWYDD a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra. º

4Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr ARGLWYDD a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid’ amgen yr holl wlad hon. º

5Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr ARGLWYDD: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.

← Llyfr Jeremeia 44Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 46 →

Study Llyfr Jeremeia 45

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152