Llyfr Jeremeia 20
1PAN glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; º
2Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar ‘oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD. º
3A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddy¬wedodd wrtho ef, Ni alwbdd yr ARGLWYDD dy enw di Pasur, ond Magormissabib. º
4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgludd hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf. º
5Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werth fawr ganddi, a holl drysorau brenhin¬oedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelyntion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon. º
6A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog. º
7Oarglwydd, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfvgaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hydy dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar, º
8Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar¬gerdd i mi beunydd. º
9Yna y dywedais, Ni soniaf amdano efi, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio. º
10Canys clywais ogaa llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol a mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddy* wedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno. º
11Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth. º
12Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn., º
13Cenwch i’r ARGLWYDD, moliennwch yr ARGLWYDD: canys etc a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus. º
14Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam. º
15Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr. º
16A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd: º
17Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth. º
18Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?