The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 37

1AR brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda. º

2Ond ni wrandawodd efe, na’i weision na phobl y tir, ar eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd. º

3A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proff¬wyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw. º

4A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy. º

5A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem. º

6Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, º

7Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn a mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i’w wlad ei hun, i’r Aifft. º

8A’r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac.a’i henillant, ac a’i llosgant â thân..’’ º

9Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr a y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid md ânt hwy. º

10Canys pe trawech chwi holl lu y. Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân. º

11A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo, º

12Yna Jeremeia a aeth allan o Jerw¬salem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl. º

13A phan oedd efe ym mhorth Ben¬jamin, yr oedd yno ben-swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti. º

14Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion. º

15Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy. º

16Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer; º

17Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dy ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD? A dywedodd Jerem¬eia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon. º

18Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy? º

19Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon? º

20Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifen¬nydd, rhag fy marw yno. º

21Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl tara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

← Llyfr Jeremeia 36Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 38 →

Study Llyfr Jeremeia 37

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152