Llyfr Jeremeia 26
1YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º
2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Ju dah, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr ARGLWYDD, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air: º
3I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd. º
4A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais-ger eich bron, º
5I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandaw¬soch chwi; º
6Yna y gwnaf y t hwn fel Seilo, a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear. º
7Yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr ARGLWYDD. º
8A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. º
9Paham y proffwydaist yn enw yr AR¬GLWYDD, gan ddywedyd. Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a’r ddinas hon a wneiryn anghyf¬annedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr ARGLWYDD. º
10Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr ARGLWYDD, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yl ARGLWYDD. º
11Yna yr offeiriaid a’r:proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd. Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch a’ch clustiau. º
12Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, 3gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’m hanftmodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas bon, yr holl eiriau a glywsoch.
13Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw; ac fe a edifarha yr ARGLWYDD am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn. º
14Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo.; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yip. uniawn.; º
15Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a’m lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirioneddyr ARGLWYDD a’m hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn. º
16Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr AR¬GLWYDD ein Duw y llefarodd efe wrthym. º
17Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd, º
18Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed. º
19A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, efi farwolaeth? oni ofnodd efe yr ARGLWYDD, ac oni weddïodd efe gerbron yr ARGI.WYDD, fel yr edifarhaodd yr ARGLWYDD am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau. º
20Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr ARGLWYDD, Ureia mab Semaia, o Ciriath-jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia. º
21A phan glywodd y brenin Jehoiacim, ifl’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft. º
22A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft, sef Einathan mab Achbor, a.gwŷr gydag ef i’r Aifft: º
23A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft, ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin. º
24Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y..bobl i’w ladd.