The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 49

1AM feibion Ammon, fel hyn y dywed -lx yr ARGLWYDD; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef? ‘ º

2Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon, a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a’i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD. º

3Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwre-gyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd. º

4Paham yr ymffrosti di yn y dynrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodfl yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi? º

5Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, rhag pawb o’th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad. º

6Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr ARGLWYDD. º

7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt? º

8Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy. º

9Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon. º

10Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a’i frodyr a’i gymdogion, ac nid yw efe. º

11Gad dy amddifaid, myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy.wedd-won ynof fi. º

12Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr. º

13Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol. º

14Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr ARGLWYDD) bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch;, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel. º

15Oherwydd wele, myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion. º

16Dy erwindeb a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y_ graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr ARGLWYDD. º

17Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi. º

18Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi. º

19Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i? º

20Am hynny gwrandewch gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt. º

21Gan lef eu cwymp hwynt y cryn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch. º

22Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. º

23Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys. º

24Damascus a lesgaodd, ac a ymdry i ffoi, ond dychryn a’i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor. ‘.’ º

25Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd? º

26Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd AR¬GLWYDD y lluoedd. º

27A mi a gyneuaf dân ym mur Damas¬cus, ac efe a ddifa lysoedd Bcnhadad. º

28Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodunosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain. º

29Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a’u holl lestri, a’u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch. º

30Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwy4d, Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi. º

31Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal’a medd yr ARGLWYDD, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo. º

32A’u camelod a fydd yn anrhaith, a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD. º

33Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi. º

34Gair yr ARGLWYDD yr hwn EI ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd, º

35Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt. º

36A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam. º

37Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a’r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt. º

38A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion, medd yr ARGLWYDD. º

39Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr ARGLWYDD.

← Llyfr Jeremeia 48Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 50 →

Study Llyfr Jeremeia 49

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152