Llyfr Jeremeia 42
1FELLY holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant, º
2Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;) º
3Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom. º
4Yna Jeremeia y proffwyd a ddy¬wedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych. º
5A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni. º
6Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw. º
7Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia. º
8Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr, º
9Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef; º
10Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi. º
11Nac oinwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef. º
12A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun. º
13Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, º
14Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Ain’r yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni: º
15Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno, º
16Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw. º
17Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf, â newyn, ac a haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt. º
18Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y r Iluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach. º
19O gweddill Jwda, yr ARGLWYDD a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw. º
20Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein Duw, a nyni a’i gwnawn. º
21A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfoffodd efe fi atoch o’i blegid. º
22Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.