Llyfr Jeremeia 33
1GAIR yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth A Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd,;.; º
2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD ys hwn a’i gwnaeth, yr ARGLWYDD yr ten a’i lluniodd i’w sicrhau, yr ARGLWYDD yw eienw: º
3Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosafi ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. º
4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd a pheiriannau rhyfel, ac a chleddyf; º
5Y maent yn dyfod i ymladd a’r Caldeaid, ond i’w llenwi a chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb Oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynf. º
6Wele, myfl a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd, º
7A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. º
8A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn. º
9A hyn fydd i mi yn cnw llawenydd, yn glod ac yn ogoniani, o llaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. º
10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) º
11Llef gorfoledd a llef llawenydd, l).e;f y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch ARGLWYDD y lluoedd; oherwydd daionus yw yr ARGLWYDD, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr ARGLWYDD: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr ARGLWYDD. º
12Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. º
13Yn ninasoedd y mynydd, yn ninas? oedd y gwastad, ac yn ninas oedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylch¬oedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr a defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD. º
14Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.
15Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna fam a chyfiawnder yn y tir. º
16Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; 4 hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder. º
17Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. º
18Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd-offrwrn, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd. º
19A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, º
20Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; º
21Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac a’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. º
22Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. º
23Hefyd, gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, º
24Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. º
25Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os fy nghyfamod â’r dydd ac a’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: º
26Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.