Llyfr Jeremeia 23
1GWAE y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr ARGLWYDD. º
2Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW Israel yn erbyn y bugeil¬iaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD. º
3A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wiedydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhant xxxx ac y chwanegant. º
4Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr ARGLWYDD. º
5Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna fam a chyfiawnder ar y ddaear.’ º
6Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER. º
7Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft: º
8Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gant aros yn eu gwlad eu hun. º
9Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr ARGLWYDD, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef. º
10Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr: canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear, ac y sycfaodd tirion leoedd yr anialwch; a’u helynt sydd ddrwg, a’u cadernid nid yw uniawn. º
11Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr ARGLWYDD. º
12Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr ARGLWYDD. º
13Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel. º
14Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra. º
15Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a’u bwydaf hwynt a’r wermod, ac a’u diodaf hwynt a dwfr bust!: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir. º
16Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweiedigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr ARGLWYDD. º
17Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. º
18Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr ARGLWYDD, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? º
19Wele, corwynt yr ARGLWYDD a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. º
20Digofaint yr ARGLWYDD ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. º
21Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. º
22A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd q’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd. º
23Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid Duw o bell? º
24A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD. º
25Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. º
26Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. º
27Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw ttwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. º
28Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD. º
29Onid yw fy ngair i megis tan? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig? º
30Am hynny wele fi yn ‘erbyn y proff¬wydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog. º
31Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai a lymhant eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywed¬odd. º
32Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr ARGLWYDD, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl a’u celwyddau, ac a’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchy- xxxx fflyn tddynt: aan hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr ARGLWYDD. º
33A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr ARGLWYDD? yna y dywedi wrthynt. Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr ARGLWYDD. º
34A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr ARGLWYDD, myfi a ymwelaf a’r gŵr hwnnw, ac a’i dŷ. º
35Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr ARGLWYDD? a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD? º
36Ond am faich yr ARGLWYDD na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwy-chwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, ARGLWYDD y lluoedd, ein Duw ni. º
37Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr ARGLWYDD i ti?’a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD? º
38Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich, yr ARGLWYDD; am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr ARGLWYDD, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr ARGLWYDD: º
39Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi; a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg. º
40A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.