Llyfr Jeremeia 19
1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD; DOS, a chais ysten bridd y crochfinydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid, º
2A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt; º
3A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr ARGLWYDD: Fcl hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant. º
4Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogl-darthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; º
5Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal, yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: º
6Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr AK&LWYDD, pryd na elwir y ac hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa. º
7A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º
8A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn maidd, pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi. º
9A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. º
10Yna y tornxxx yr ysten yng ngŵydd y gwŷr a cl gyda thi, º
11Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWTOD y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu. º
12Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD, ac i’r rhai sydd yn trig& ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet. º
13A thai Jerwsalem, a thai brenhin¬oedd Jwda, a fyddaot halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogl-darthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddioA-offrymau i dduwiau dieithr. º
14Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr ARGLWYDD ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr AR¬GLWYDD, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, º
15Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.