Llyfr Jeremeia 30
1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy¬wedyd, º
2Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr. º
3Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi. º
4Dyma hefyd y geiriau a lefarodd.’yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda: º
5Oherwydd fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Llef dychryn a glywsom m, ofn, ac nid heddwch. º
6Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr a’i ddwylo ar ei lwynau; fel gwraig wrth esgor, ac y rrowyd yr holl wynebau yn lesni? º
7Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo; amser blinder yw hwo i Jacob; ond efe a waredir ohono.
8Canys y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef iau ef oddi ar dy warr di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach. º
9Eithr hwy a wasanaethant yr AR¬GLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt. º
10Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed, a Jacob a ddy chwel, ac a orffwys, ac a gaifflonydd, ac ni bydd a’i dychryno. º
11Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd. º
12Oblegid fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll. º
13Nid oes a ddadleuo dy gwyn, fel y’th ‘ iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. "y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia º
14Dy holl gariadau a’th anghofiasant: * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy ai cheisiant mohonot ti; canys mi a’th nr rA drewais a dymod gelyn, sef a chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant. º
15Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bech¬odau y gwneuthum hyn i ti. º
16Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail. º
17Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio. º
18Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar-ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. º
19A moliant xxxx a a, allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anami; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael. º
20Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf a’u holl orthrymwyr hwynt. º
21A’u pendefigion fydd ohonynt ei hun, a’u liywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesau, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i hesau ataf fi? medd yr ARGLWYDD. º
22A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau. º
23Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys. º
24Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn...