The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 24

1"VR ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac — wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer tcml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon. º

2Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced. º

3Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyl, Belh a weli di, Jeremeia? A mi a ddyweilais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced. º

4Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, º

5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais O’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. º

6Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ap nis diwreiddiaf. º

7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon. º

8Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft: º

9Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt. º

10A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.

← Llyfr Jeremeia 23Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 25 →

Study Llyfr Jeremeia 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152