Llyfr Jeremeia 22
1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, DOS di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn; º
2A dywed, Gwrando air yr ARGLWYDD; frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn: º
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrym¬wr: na wnewch gam, ac na threisiwcn y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ai. na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. º
4Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y ty hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl. º
5Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy him y tyngaf, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. º
6Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am dy brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. º
7Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithiwyr, pob un a’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân. º
8A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr AR¬GLWYDD fel hyn i’r ddinas fawr hon? º
9‘Yna yr atebant. Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt. º
10Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wyl¬wch am yr hwn sydd yn myned ymaith’: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wel wlad ei enedigaeth. º
11Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deymasodd yn lle Joseia ei dad; yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddy¬chwel efe yno mwyach. º
12Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni we! efe y wlad hon mwyach. º
13Gwae yr hwn a adeilado ei d trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: º
14Yr hwn a ddywed. Mi a adeiladaf i mi dy eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio a fermilion. º
15A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? º
16Efe a farnodd gwyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr ARGLWYDD,’ º
17Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd-dod, ac ar’ dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a chain. º
18Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O i6r! neu, O ei ogoniant ef!, º
19A chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth’ Jerwsalem. ‘ º
20Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant. º
21Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais. º
22A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni. º
23Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor! º
24Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno: º
25A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid. º
26Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw. º
27Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno. º
28Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? º
29O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr ARGLWYDD. º
30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had efun a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.