Llyfr Jeremeia 29
1DYMA eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodo¬nosor o Jerwsalem i Babiloa; º
2(Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem,) º
3Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hiloeia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd, º
4Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, wrth.yr holl gaeth¬glud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon; º
5Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.; º
6Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch. º
7Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddiwch ar yr ARGLWYDD drosti hi; canys yn ei º
8Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio: º
9Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais’ i mohonynt, medd yr ARGLWYDD. º
10Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy ngair. daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. º
11Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr ARGLWYDD, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr. ydych chwi yn ei ddisgwyl. º
12Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddiwch arnaf fi, a minnau. a’ch gwrandawaf. º
13Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch a’ch holl galon. º
14A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelafi eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai; y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono. º
15Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr ARGLWYDD a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon;, º
16Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud;, º
17Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced. º
18A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf, a newyn, ac a haint; ac mi a’u rhoddat hwynt i’w symud i holl deymasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt; º
19Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr ARGLWYDD, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr ARGLWYDD. º
20Gan hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon: º
21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi. º
22A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi" wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr ARGLWYDD dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân; º
23Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai nl orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr ARGLWYDD. º
24Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd, º
25Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, ArtS i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd, º
26Yr ARGLWYDD a’th osododd di yn: offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion:;’’ º
27Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi? º
28Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddym; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. º
29A Seffaneia yr offeiriad a ddarilenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd. º
30Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,... º
31Anfon at yr holl gaethglud, gan ddy¬wedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd: º
32Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf a Semaia y Nehelamiad, ac a’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yl ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.: