The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 46

1GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd, º

2Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo-necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda. º

3Teclwch y darian a’r astalch, a nesewch i ryfel. º

4Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau. º

5Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a’u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr ARGLWYDD. º

6Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afan Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant. º

7Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd? º

8Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonyddi: a hi a ddywed. Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai sydd yn trigo ynddi. º

9O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa. º

10Canys dydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: â’r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir xxx â’u gwaed hwynt: canys aberth sydd i ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates. º

11O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagi: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti. º

12Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a’th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gcidarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthi- xxx ihant. º

13Y gair yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor bremn Babilon-, ac y trawai wlad yr Aifft. º

14Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod, oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd. º

15Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i’r ARGLWYDD eu gwthio hwynt. º

16Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr. º

17Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig. º

18Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd, cyn sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd, a Channel yn y môr, efe a ddaw. º

19O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd ang-hyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd. º

20Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod. º

21Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt. º

22Ei llais hi a â allan fel sarff: canys a llu yr ânt hwy, ac a bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed. º

23Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr ARGLWYDD, er na ellir ei chwilio: canys amiach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb nfedi arnynt. º

24Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd. º

25ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel-, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf a lliaws No, ac a Pharo, ac a’r Aifft, ac a’i duwiau hi, ac a’i brenhinoedd, sef a Pharo, ac a’r rhai sydd yn ymddiried ynddo; º

26A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr ARGLWYDD. º

27Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd es-mwyth arno, ac heb neb a’i dychryno. º

28O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.

← Llyfr Jeremeia 45Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 47 →

Study Llyfr Jeremeia 46

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152