The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 32

1Vgair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebu chodonosor. º

2Canys y pryd hwnnw yr oedd llm brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nh brenin Jwda. º

3Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi; º

4Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan âg ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau; º

5Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr ARGLWYDD: er i chwi ymladd a’r Caldeaid, ni lwyddwch. º

6A Jeremeia a lefarodd, Gair yr AR¬GLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, º

7Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Pryn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder, y pryniad i’w brynu ef. º

8Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a; ddywedodd wrthyf, Pryn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Ben¬jamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr’ etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; 1 pryn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr ARGLWYDD oedd hwn., º

9A mi a brynais y maes oedd yn Ana¬thoth gan Hanamesi mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian. º

10A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriaimau. º

11Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a (lefod, a’r hwn oedd yn agored. º

12A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy. º

13A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd, º

14Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer. º

15Oherwydd fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon. º

16Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º

17Oarglwydd DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, a’thi fawr allu ac a’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti. º

18Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, ARGLWYDD y, lluoedd yw ei enw;; º

19Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl; ffrwyth ei weithredoedd; º

20Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw,, megis heddiw; º

21Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac a rhyfeddodau, ac a llaw gref, ac a braich estynedig, ac ag ofn mawr; º

22Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. º

23A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt. º

24Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. º

25A thi a ddywedaist wrthyf, O ARGLWYDD DDUW, Pryn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid. ‘ º

26Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, º

27Wele, myfi yw yr ARGLWYDD, DOTV pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi? º

28Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. º

29A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogl-darthasant’ ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant’ ddiod-offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i. º

30Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u" mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i a gweithredoedd eu dwylo, medd yr ARGLWYDD. º

31Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: „ — º

32Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi,. a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem.. º

33Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau: º

34Eithr gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. º

35A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch, yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd-dra hyn, i beri i Jwda bechu. º

36Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD., Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint; º

37Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r faoll diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m sonant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. º

38A hwy a fyddant yn bobl i mi,.a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy-thau.., º

39A mi a roddaf iddynt un galon ac’ un rfordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl. º

40A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb, wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont o’ddi wrthyf. º

41Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, a’m holl galon, ac a’m holl enaid. º

42Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl xxxx fawr ddrwg hyn, felly y dygaf ni arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. º

43A meysydd a feddiennir yn y wlad. yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn! nac anifai 1; yn llawy Caldeaiit y rhoddwyd hi. º

44Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD.

← Llyfr Jeremeia 31Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 33 →

Study Llyfr Jeremeia 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152