The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 41

1A yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa. º

2Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a’r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf, ac a’i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad. º

3Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedal¬eia, ym Mispa, a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr. º

4A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod, º

5Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac a thus yn eu dwylo, i’w dwyn i dŷ yr ARGLWYDD. º

6Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam. º

7A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt, ac a’u bwriodd i ganol y pydew, efe a’r gwŷr oedd gydag ef. º

8Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr. º

9A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi a’r rhai a laddasid. º

10Yna Ismael a gaethgludodd ho}! weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Geda leia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd ay feibion Ammon. º

11Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia; º

12Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon. º

13A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant. º

14Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea. º

15Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon. º

16Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe. o Gibeon. º

17A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft, º

18Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.

← Llyfr Jeremeia 40Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 42 →

Study Llyfr Jeremeia 41

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152