The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 16

1GAIR yr ARGLWYDD a dflaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd, º

2Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn. º

3Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon; º

4O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º

5Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi. º

6A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt. º

7Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam. º

8Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed. º

9Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi. º

10A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau byn,?c iddynt hwythau ddywedyd wrthyt. Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu. Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw? º

11Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith; º

12A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; º

13Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ifafr. º

14Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft: º

15Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau. º

16Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr ARGLWYDD, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac, oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau. º

17Canys y mae fy ngolwg ar eu hôl} ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid. º

18Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir a’u ffiaidd gelanedd, ie, a’u ffieidd-dra y llanwasant fy eti-feddiaeth. º

19Oarglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. º

20A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? º

21Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chant wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.

← Llyfr Jeremeia 15Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 17 →

Study Llyfr Jeremeia 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152