The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 11

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

2Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem;

3Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn,

4Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi; felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau:

5Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O AR¬GLWYDD, felly y byddo.

6Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerw¬salem, gan ddywedyd, Gwrandewch eir¬iau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt.

7Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais.

8Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

9A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem,

10Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.

11Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.:

12Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogl-darthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd.

13Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda, ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.

14Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.

15Beth a wna fy annwyl yn fy nhy^, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.

16Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr ARGLWYDD dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tan ynddi, a’i changhennau a dorrwyd.

17Canys ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.

18A’r ARGLWYDD a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy.

19A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.

20Eithr, O ARGLWYDD y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

21Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr ARGLWYDD, rhag dy farw trwy ein dwylo ni:

22Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn.

23Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.

← Llyfr Jeremeia 10Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 12 →

Study Llyfr Jeremeia 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152