Llyfr Genesis 10
1Meibion Sem. A dyma genhedlaethau meibion Noah: Sem, Cham, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi y diluw.
2¶ Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
4A meibion Jafan; Elisah, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6¶ A meibion Cham oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.
7A meibion Cus; Seba, a Hafilah, a Sabta, a Raamah, a Sabteca: a meibion Raamah; Seba, a Dedan.
8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.
10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y’ngwlad Sinar.
11O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefeh, a dinas Rehoboth, a Chalah,
12A Resen, rhwng Ninefeh a Chalah; honno sydd ddinas fawr.
13Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,
14Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
15¶ Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
16A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad,
17A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad,
18A’r Arfadiad a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.
20Dyma feibion Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21¶ I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.
22Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
23A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.
25Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
26A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Jerah,
27Hadoram hefyd, ac Usal, a Diclah,
28Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,
29Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.
31Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi y diluw.