The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 29

1a Judah. A Jacob a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

2Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair dïadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhâent y dïadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau y pydew.

3Ac yno y cesglid yr holl ddïadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhâent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau y pydew yn ei lle.

4A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.

5Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.

6Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â’r defaid.

7Yna y dywedodd efe, Wele etto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhêwch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

8A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddïadelloedd, a threiglo o honynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhâwn y praidd.

9¶ Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd â’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.

10A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.

11A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

12A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeccah oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad.

13A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

14A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.

15¶ A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai o herwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

16Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Leah, ac enw yr ieuangaf Rahel.

17A llygaid Leah oedd weiniaid; ond Rahel oedd dêg ei phryd, a glandeg yr olwg.

18A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

19A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i wr arall; aros gyd â mi.

20Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.

21¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.

22A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.

23Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Leah ei ferch, a’i dwyn hi atto ef; ac yntau a aeth atti hi.

24A Laban a roddodd iddi Zilpah ei forwyn, yn forwyn i Leah ei ferch.

25A bu, y bore, wele Leah oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?

26A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd â mi etto saith mlynedd eraill.

28A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Leah, ac a wasanaethodd gyd âg ef etto saith mlynedd eraill.

31A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Leah, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.

32A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.

33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.

34A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngwr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.

35A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywed odd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Judah. A hi a beidiodd â phlanta.

← Llyfr Genesis 28Read In The App, Free →Llyfr Genesis 30 →

Study Llyfr Genesis 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950