The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 13

1Yntau yn symmudo i Hebron, ac yn adeiladu allor yno. Ac Abram a aeth i fynu o’r Aipht, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gyd âg ef, i’r dehau.

2Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.

3Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r dehau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;

4I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.

5¶ Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gyd âg Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.

6A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.

7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd anifeiliaid Abram a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlad.

8Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, attolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; o herwydd brodyr ydym ni.

9Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilldua, attolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddehau; ac os ar y llaw ddehau, minnau a droaf ar yr aswy.

10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorrah, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aipht, ffordd yr elych i Soar.

11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tu a’r dwyrain: felly yr ymneillduasant bob un oddi wrth ei gilydd.

12Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.

13A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneillduo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.

15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.

16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.

17Cyfod, rhodia trwy y wlad, ar ei hŷd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.

18Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd y’ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.

← Llyfr Genesis 12Read In The App, Free →Llyfr Genesis 14 →

Study Llyfr Genesis 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950