Llyfr Genesis 8
1yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach. A Duw a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gyd ag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.
2Cauwyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd; a lluddiwyd y gwlaw o’r nefoedd.
3A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4¶ Ac yn y seithfed mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, y gorphwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau y mynyddoedd.
6¶ Ac ym mhen deugain niwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr arch a wnaethai efe.
7Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8Ac efe a anfonodd golommen oddi wrtho, i weled a dreiasai y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
9Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd atto ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynodd ei law, ac a’i cymmerodd hi, ac a’i derbyniodd hi atto i’r arch.
10Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golommen allan o’r arch.
11A’r golommen a ddaeth atto ef ar brydnawn; ac wele ddeilen olew-wydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith atto ef mwy.
13¶ Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14Ac yn yr ail mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaiar a sychasai.
15¶ A llefarodd Duw wrth Noah, gan ddywedyd,
16Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd â thi.
17Pob peth byw a’r sydd gyd â thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyd â thi: heppiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18A Noah a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gyd âg ef.
19Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
20A Noah a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymmodd boeth-offrymmau ar yr allor.
21A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22Pryd hau, a chynhauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.