The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 30

1Dyfais Jacob, trwy yr hon yr ymgyfoethogodd efe. Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid ê mi a fyddaf farw.

2A chynneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a attaliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?

3A dywedodd hithau, Wele fy llaw-forwyn Bilhah, dos i mewn atti hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd o honi hi.

4A hi a roddes ei llaw-forwyn Bilhah iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn atti.

5A Bilhah a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

6A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

7Hefyd Bilhah, llaw-forwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.

8A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Naphtali.

9Pan welodd Lea beidio o honi â phlanta, hi a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpah, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob.

10A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg fab i Jacob.

11A Leah a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg yr ail mab i Jacob.

13A Leah a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

14¶ Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhauaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Leah ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Leah, Dyro, attolwg, i mi o fandragorau dy fab.

15Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn o honot fy ngwr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyd â thi heno am fandragorau dy fab.

16A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Leah a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Attaf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyd â hi y nos honno.

17A Duw a wrandawodd ar Leah, a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.

18A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, o herwydd rhoddi o honof fi fy llaw-forwyn i’m gwr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.

19Lea hefyd a feichiogodd etto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.

20A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynnysgaeth dda; fy ngwr a drig weithian gyd â mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Zabulon.

21Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dinah.

22¶ A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.

23A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.

24A hi a alwodd ei enw ef Joseph, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

25¶ A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseph, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun.

26Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd â thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.

27A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di.

28Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf.

29Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyd â myfi.

30Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn llïosowgrwydd y cynnyddodd; o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun?

31Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a attebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.

32Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan neillduo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn coch-ddu ym mhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ym mhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog.

33A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyd â mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyd â myfi.

34A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ol dy air di!

35Ac yn y dydd hwnnw y neillduodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwỳn arno, a phob coch-ddu ym mhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun.

36Ac a osododd daith tri niwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37¶ A Jacob a gymmerth iddo wïail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwỳnion, gan ddatguddio y gwỳn yr hwn ydoedd yn y gwïail.

38Ac efe a osododd y gwïail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwtterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai y praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwïail; a’r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.

40A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tu ag at y cylch-frithion, ac at bob coch-ddu ym mhlith praidd Laban; ac a osododd ddïadellau iddo ei hun o’r neilldu, ac nid gyd â phraidd Laban y gosododd hwynt.

41A phob amser y cyfebrai y defaid cryfaf, Jacob a osodai y gwïail o flaen y praidd yn y cwtterydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwïail;

42Ond pan fyddai y praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob.

43A’r gwr a gynnyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac asynod.

← Llyfr Genesis 29Read In The App, Free →Llyfr Genesis 31 →

Study Llyfr Genesis 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950