The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 16

1Genedigaeth Ismael. Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a’i henw Agar.

2A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3A Sarai, gwraig Abram, a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.

4¶ Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi o honi, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.

5Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.

6Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

7¶ Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:

8Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.

9Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylaw hi.

10Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhâu yr amlhâf dy had di, fel na rifir ef o lïosowgrwydd.

11Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.

12Ac efe a fydd ddyn gwŷllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.

13A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

15¶ Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.

16Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

← Llyfr Genesis 15Read In The App, Free →Llyfr Genesis 17 →

Study Llyfr Genesis 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950