The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 46

1Mae efe yn dysgu i’w frodyr pa fodd yr attebent Pharaoh. Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDuw ei dad Isaac.

2A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aipht; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

4Myfi a âf i waered gyd â thi i’r Aipht; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fynu drachefn: Joseph hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

5A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharaoh i’w ddwyn ef.

6Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aipht, Jacob, a’i holl had gyd âg ef:

7Ei feibion, a meibion ei feibion gyd âg ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gyd âg ef i’r Aipht.

8¶ A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aipht, Jacob a’i feibion Reuben, cynfab Jacob.

9A meibion Reuben; Hanoch, a Phàlu, Hesron hefyd, a Charmi.

10¶ A meibion Simeon, Jemuel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.

11¶ Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.

12¶ A meibion Judah; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Zarah: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

13¶ Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufah, a Job, a Simron.

14¶ A meibion Zabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel.

15Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dinah ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.

16¶ A meibion Gad; Siphion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

17¶ A meibion Aser; Jimnah, ac Isuah, ac Isui, a Berïah, a Serah eu chwaer hwynt. A meibion Berïah, Heber, a Malchiel.

18Dyma feibion Zilpah, yr hon a roddodd Laban i Leah ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.

19¶ Meibion Rahel gwraig Jacob, oedd Joseph, a Benjamin.

20Ac i Joseph y ganwyd, yn nhir yr Aipht, Manasseh ac Ephraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potipherah offeiriad On, iddo ef.

21¶ A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.

22Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.

23¶ A meibion Dan oedd Husim.

24¶ A meibion Naphtali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Sìlem.

25Dyma feibion Bilhah, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith nyn oll.

26Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyd â Jacob i’r Aipht, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thri ugain.

27A meibion Joseph, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aipht, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aipht, oeddynt ddeg a thri ugain.

28¶ Ac efe a anfonodd Judah o’i flaen at Joseph, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.

29A Joseph a barettôdd ei gerbyd, ac a aeth i fynu i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.

30A dywedodd Israel wrth Joseph, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw etto.

31A dywedodd Joseph wrth ei frodyr ac wrth deulu ei dad, Mi a âf i fynu, ac a fynegaf i Pharaoh, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant attaf fi.

32A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’i hyn oll oedd ganddynt.

33A phan alwo Pharaoh am danoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?

34Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuengctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael o honoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Aiphtiaid yw pob bugail defaid.

← Llyfr Genesis 45Read In The App, Free →Llyfr Genesis 47 →

Study Llyfr Genesis 46

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950