Llyfr Genesis 38
1ac yn dwyn gefelliaid, Phares a Zarah. Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Judah fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at wr o Adùlam, a’i enw Hirah.
2Ac yno y canfu Judah ferch gwr o Canaan, a’i enw ef oedd Suah; ac a’i cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.
3A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er.
4A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.
5A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Selah. Ac yn Cezib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.
6A Judah a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedig, a’i henw Tamar.
7Ac yr oedd Er, cyntaf-anedig Judah, yn ddrygionus y’ngolwg yr Arglwydd; a’r Arglwydd a’i lladdodd ef.
8A Judah a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrïoda hi, a chyfod had i’th frawd.
9Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai yr had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi o hono had i’w frawd.
10A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe y’ngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a’i lladdodd yntau.
11Yna Judah a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynnyddo fy mab Selah: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.
12¶ Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Suah, gwraig Judah: a Judah a gymmerth gysur, ac a aeth i fynu i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a’i gyfaill Hirah yr Adùlamiad.
13Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Timnath, i gneifio ei ddefaid.
14Hithau a ddïosgodd ddillad ei gweddwdod oddi am dani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
15A Judah a’i canfu hi, ac a dybiodd mai puttain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.
16Ac efe a drodd atti hi i’r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, attolwg, gâd i mi ddyfod attat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cai ddyfod attaf?
17Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fỳn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?
18Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o hono ef.
19Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddïosgodd ei gorchudd oddi am dani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.
20A Judah a hebryngodd fỳn gafr yn llaw yr Adùlamiad ei gyfaill, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.
21Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y buttain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.
22Ac efe a ddychwelodd at Judah ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.
23A Judah a ddywedodd, Cymmered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y mỳn hwn, a thithau ni chefaist hi.
24¶ Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Judah, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a butteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Judah, Dygwch hi allan, a llosger hi.
25Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r gwr bïau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, attolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma.
26A Judah a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, o herwydd na roddais hi i’m mab Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.
27¶ Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.
28Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymmerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.
29A phan dynnodd efe ei law yn ei hol, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y torriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.
30Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Zarah.