Llyfr Genesis 18
1Ac Abraham yn eiriol trostynt. A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef y’ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, y’ngwres y dydd.
2Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a’r ddaear,
3Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.
4Cymmerer, attolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwyswch dan y pren;
5Ac mi a ddygaf dammaid o fara, a chryfhêwch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: o herwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sarah, ac a ddywedodd, Parottoa ar frys dair phïolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymmerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llangc, yr hwn a frysiodd i’w barattôi ef.
8Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a barattoisai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyd â hwynt tan y pren; a hwy a fwyttasant.
9¶ A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sarah dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ol ef.
11Abraham hefyd a Sarah oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sarah yn ol arfer gwragedd.
12Am hynny y chwarddodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd?
13A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sarah fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.
15A Sarah a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: o herwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nag ê, oblegid ti a chwerddaist.
16¶ A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tu a Sodom: ac Abraham a aeth gyd â hwynt, i’w hanfon hwynt.
17A’r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
21Disgynaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ol eu gwaedd a ddaeth attaf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid ê, mynnaf wybod.
22A’r gwŷr a droisant oddi yno, ac a aethant tu a Sodom: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.
23¶ Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?
24Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?
25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
26A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
27Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.
28Ond odid bydd pump yn eisieu o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.
29Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef etto, ac a ddywedodd, Ond odid cair yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.
30Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Cair yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
31Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid cair yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.
32Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid cair yno ddeg. Yntau a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.
33A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.