The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 14

1Wedi i’w gyfranwyr gael eu rhannau, mae efe yn rhoddi y rhan arall o’r ysglyfaeth i frenhin Sodom. A bu yn nyddiau Amraphel brenhin Sinar, Arioch brenhin Elasar, Cedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd;

2Wneuthur o honynt ryfel â Bera brenhin Sodom, ac â Birsa brenhin Gomorrah, â Sinab brenhin Admah, ac â Semeber brenhin Seboim, ac â brenhin Bela, hon yw Soar.

3Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw y môr heli.

4Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.

5A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gyd âg ef, ac a darawsant y Rephaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Zuziaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safeh-Ciriathaim,

6A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.

7Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a darawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.

8Allan hefyd yr aeth brenhin Sodom, a brenhin Gomorrah, a brenhin Admah, a brenhin Seboim, a brenhin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;

9A Chedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd, ac Amraphel brenhin Sinar, ac Arioch brenhin Elasar: pedwar brenhin yn erbyn pump.

10A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorrah a ffoisant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoisant i’r mynydd.

11A hwy a gymmerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorrah, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.

12Cymmerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; o herwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.

13A daeth un a ddïangasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo y’ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair âg Abram.

14A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddau naw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15Ac efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u tarawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus.

16Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

17¶ A brenhin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gyd âg ef,) i ddyffryn Safeh, hwn yw dyffryn y brenhin.

18Melchisedec hefyd, brenhin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:

19Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:

20A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl.

21A dywedodd brenhin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth.

22Ac Abram a ddywedodd wrth frenhin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,

23Na chymmerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd o honot, Myfi a gyfoethogais Abram:

24Ond yn unig yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhan y gwŷr a aethant gyd â mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhan.

← Llyfr Genesis 13Read In The App, Free →Llyfr Genesis 15 →

Study Llyfr Genesis 14

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950