The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 2

1Felly y gorphenwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt.

2Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.

3A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.

4¶ Dyma genhedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grëwyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd,

5A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw wlawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio y ddaear.

6Ond tarth a esgynodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.

7A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.

8¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.

9A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd y’nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear.

10Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

11Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafilah, lle y mae yr aur:

12Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae Bdeliwm a’r maen Onix.

13Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.

14Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du y dwyrain i Assyria: a’r bedwaredd afon yw Euphrates.

15A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dyn, ac a’i gosododd ef y’ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi.

16A’r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwytta y gelli fwytta:

17Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttêi di o hono, gan farw y byddi farw.

18¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymmwys iddo.

19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.

20Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.

21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymmerodd un o’i asennau ef, ac a gauodd gig yn ei lle hi.

22A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.

23Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi.

24O herwydd hyn yr ymedy gwr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

← Llyfr Genesis 1Read In The App, Free →Llyfr Genesis 3 →

Study Llyfr Genesis 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950