The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 45

1Jacob yn ymlawenychu wrth y newyddion. Yna Joseph ni allodd ymattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd âg ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gyd âg ef, pan ymgydnabu Joseph a’i frodyr.

2Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Aiphtiaid, a chlybu tŷ Pharaoh.

3A Joseph a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseph: ai byw fy nhad etto? A’i frodyr ni fedrent atteb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.

4Joseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, attolwg, attaf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.

5Weithian gan hynny na thristêwch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu o honoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.

6Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd etto bùm mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.

7A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.

8Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharaoh, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aipht.

9Brysiwch, ac ewch i fynu at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseph: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i waered attaf; nac oeda:

10A chei drigo y’ngwlad Gosen, a bod yn agos attaf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:

11Ac yno y’th borthaf; (oblegid pùm mlynedd o’r newyn a fydd etto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.

12Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.

13Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aipht, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.

14Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.

15Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ol hynny ei frodyr a ymddiddanasant âg ef.

16¶ A’r gair a ddaeth i dŷ Pharaoh, gan ddywedyd, Brodyr Joseph a ddaethant: a da oedd hyn y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei weision.

17A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;

18A chymmerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta brasder y wlad.

19Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymmerwch i chwi o wlad yr Aipht gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymmerwch eich tad, a deuwch.

20Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid dâ holl wlad yr Aipht sydd eiddo chwi.

21A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseph iddynt hwy gerbydau, yn ol gorchymyn Pharaoh, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

22I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phùm pâr o ddillad.

23Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynod yn llwythog o ddâ yr Aipht, a deg o asenod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.

24Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.

25¶ Felly yr aethant i fynu o’r Aipht, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;

26Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseph etto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.

27Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseph, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseph i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Jacob eu tad hwynt.

28A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseph fy mab etto yn fyw: âf, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.

← Llyfr Genesis 44Read In The App, Free →Llyfr Genesis 46 →

Study Llyfr Genesis 45

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950