Llyfr Eseia 12
1YNA y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O ARGLWYDD: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. º
2Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr AR¬GLWYDD DDUW yw fy nerth a’m can; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. º
3Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. º
4A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. º
5Cenwch i’r ARGLWYDD; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. º
6Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.
Study Llyfr Eseia 12
KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)