The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 26

1YDYDD hwnnw y cenir y gan hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. º

2Agorwch y pyrth, fel y del y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wir¬ionedd. º

3Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfcyd amat ti; am ei fod yn ymddiried ynot. º

4Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD byth; oherwydd yn yr ARGLWYDD DDUW y mae cadernid tragwyddol. º

5Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch. º

6Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion. º

7Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn. º

8Ar lwybr dy farnedigaethan hefyd y’th ddisgwyliasom, ARGLWYDD; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth. º

9A’m henaid y’th ddymunais liw nos, a’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th fore-geisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy larnedigaethau ar y ddaear. º

10Gwneler cymwynas I’T annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wetuehelder yr ARGLWYDD. º

11Ni welant, ARGLWYDD, pan ddyrchafer dy law: eithr cant weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl, ie, tan dy elynion a’u hysa hwynt. º

12ARGLWYDD, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni. º

13Oarglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw. º

14Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, m chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt. º

15Ychwanegaist ar y genedl, O AR¬GLWYDD, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear. º

16Mewn adfyd, ARGLWYDD, yr ymwelsant a thi; tywalhasant weddi pa oedd dy gosbedigaeth arnynt. º

17Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos, i esgor; felly yr oeddem o’th flaen di, AR¬GLWYDD. º

18Beichiogasom, gofidiasom, oeddem. fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant. º

19Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch xxx: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a’r ddaear a fwrw y mcirw allan. º

20Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chac dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio. º

21Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod allan o’i fangre, i ymweled ag anwiredd prcswylwyr y ddaear: a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.

← Llyfr Eseia 25Read In The App, Free →Llyfr Eseia 27 →

Study Llyfr Eseia 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566