Llyfr Eseia 18
1GWAE y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt’i afonydd Ethiopia: º
2Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflyro, at genhedlaeth wasgaredig ( ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac etc, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir. º
3Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner tr y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn. º
4Canys fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwi gwhth yng ngwres cynhaeaf. º
5Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwia surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig a chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghencau. º
6Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt. º
7Yr amser hwnnw y dygir rhodd i ARGLWYDD y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd d thir, i le enw ARGLWYDD y lluoedd, sef i fynydd Seion.