Llyfr Eseia 32
1WELE, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion’a lywodraethant mewn barn. º
2A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymesd;. megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn’tir sychedig. º
3Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant. º
4Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur. º
5Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw,. º
6Canys coegwr a draetha goegni, a’i-. galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr AR¬GLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. º
7Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn. º
8Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe..... º
9Cyfodwch, wragedd di-waittt; clywch fy llais: gwrandewch. fy ymadrodd, ferched diofal. º
10Dyddiau gyda blwyddyn y traBodir chwi, wragedd difraw: canys darfa y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. º
11Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. º
12Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. º
13Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobli ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. º
14Canys y palasau a wrthodw, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, ynhyfry dwell asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; º
15Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. º
16Yna y trig barn yn yr anialwch, a. chyfiawnder a erys yn y doldir. º
17A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch. a diogelwch, hyd byth. º
18A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. º
19Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. º
20Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch; draed yr ych a’r asyn yno.