Llyfr Eseia 28
1Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwil sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win. º
2Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr a llaw. º
3Dan draed y sefhrir ootoa balchder:, meddwon Effraim. º
4Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, eft’ hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law. º
5Yn y dydd hwnnw y bydd ARGLWYDD y lluoedd yn goron ardderch¬owgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl; º
6Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddyehwelant y rhyfel i’r porth. º
7Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeil¬iornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. º
8Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân. º
9I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai ft-dynnwyd oddi wrth y bronnau. º
10Canys rhoddir gorchymyn ar orchy¬myn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw. º
11Canys a bloesgni gwefusau, ac a thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth’ y bobl hyn. º
12Y rhai y dywedtidd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol prffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando. º
13Eithr gair yr ARGLWYBD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y siagler, ac y dalier hwynt. º
14Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywod-isaethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. º
15Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom. º
16Am hynny fel hyn y dywed yr AR-eLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. º
17A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches. º
18A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi. º
19O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir. º
20Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddos. a ehul yw y cwrlid i ymdroi ynddo. —. º
21Canys yr ARGLWYDD a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis ytng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithTed, ei ddieithr weithred. º
22Acynawrna watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth ARGLWYDD DDUW y lluoedd ar yr holl dir. º
23Clywch, a gwrandewch fy llais, ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd. º
24Ydyw. yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd; ac yn llyfnu ei dir? º
25Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a’r haidd nodedig, a’r rhyg yn ei gyfle? º
26Canys ei DDUW a’i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a’i dysg ef. º
27Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn. men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys a ffon, a chwmin a gwialea. º
28ŷd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac rfi ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mal ef a’i wŷr meirch. º
29Hyn hefyd a ddaw oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.